Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mai 2013
i'w hateb ar 22 Mai 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

 

1. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer sefydliadau'r sector cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i'r gwasanaeth caffael cenedlaethol? OAQ(4)0259(FIN)

 

2. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio cronfeydd strwythurol Ewropeaidd er budd Cwm Cynon? OAQ(4)0260(FIN)

 

3. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cyfarfodydd y mae wedi eu cynnal gyda gweinidogion cyfatebol yn Ewrop i drafod cronfeydd strwythurol? OAQ(4)0257(FIN)

 

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba gosbau sydd ar gael iddi wrth ymdrin â sefydliadau y mae ganddi bryderon amdanynt ynghylch eu harferion chwythu'r chwiban? OAQ(4)0263(FIN)

 

5. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod contractau caffael cyhoeddus yn cael eu dyfarnu i gwmnïau a chanddynt safonau moesegol a moesol uchel? OAQ(4)0256(FIN)

 

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda Thrysorlys y DU ynghylch Fformiwla Barnett? OAQ(4)0270(FIN)

 

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi cyfalaf yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0265(FIN)

 

8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu ystadegau ar gyfer Cymru yn unig? OAQ(4)0264(FIN)

 

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrennir i'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0255(FIN)

 

10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau cyfalaf ychwanegol a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU? OAQ(4)0268(FIN)

 

11. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrennir i'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0267(FIN)W

 

12. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru? OAQ(4)0261(FIN)

 

13. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau y mae wedi eu cael o ran y dyraniad cyllideb cyffredinol i'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0253(FIN)

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â gweithredu yn llawn argymhellion Rhan 1 Comisiwn Silk yn ôl amserlen y Comisiwn? OAQ(4)0258(FIN)W

 

15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â'r gyllideb gyffredinol a ddyrennir i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0262(FIN)

 

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i gynyddu cydweithio rhwng awdurdodau lleol? OAQ(4)0276(LG)

 

2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Cydweithio Rhanbarthol? OAQ(4)0278(LG)

 

3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)0285(LG)

 

4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa rôl, os o gwbl, y mae'r Cydbwyllgor Trafod ar gyfer Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol yn ei chwarae o ran pennu cyflogau prif weithredwyr awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0277(LG)

 

5. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)0273(LG)

 

6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes ganddi unrhyw gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â chyflogau uwch reolwyr a swyddogion mewn llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0283(LG)

 

7. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr heriau presennol sy'n wynebu llywodraeth leol? OAQ(4)0280(LG)

 

8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol? OAQ(4)0287(LG)W

 

9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cydweithio rhwng awdurdodau lleol ledled Cymru? OAQ(4)0270(LG)

 

10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithio rhwng Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Cymru? OAQ(4)0284(LG)

 

11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad ac atebolrwydd awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0275(LG)

 

12. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn meysydd chwarae yng Nghymru? OAQ(4)0288(LG)W

 

13. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pensiynwyr i dalu'r dreth gyngor? OAQ(4)0282(LG)

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0274(LG)

 

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0279(LG)

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am fynediad i bobl â symudedd cyfyngedig ar ystâd y Cynulliad? OAQ(4)0072(AC)

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gyswllt diweddar y mae Comisiwn y Cynulliad wedi ei gael â'r Ddraig Ffynci? OAQ(4)0073(AC)